Ymlaciwch mewn steil yn Llys Aeron

Ymlaciwch mewn steil yn Llys Aeron

Ymlaciwch mewn steil yn Llys Aeron

Ymlaciwch mewn steil yn Llys Aeron

Ystafelloed a Phrisiau

 

 

Mae ystafelloedd ymolchi en suite yn y tair ystafell wely ac mae pob un wedi’i chynllunio’n wahanol ac yn cynnwys nifer o eitemau bach ychwanegol
a fydd yn eich galluogi i fwynhau eich cyfnod gyda ni.

 

YSTAFELLOEDD A CHYFRADDAU Y NOSON

 

Ystafell wely ddwbl/gyda phâr o welyau ar gyfer dau berson –pris o £90 i fyny

 

Un person yn unig– pris o £55 i fyny

 

AMSER CYRRAEDD

 

Amser cyrraedd o 4.30 p.m7.00 p.m (rhaid trefnu o flaen llaw os am gyrraedd ar unrhyw adeg arall) 
Amser gadael cyn 10.30 a.m

 

YSMYGU

 

Ni chaniateir ysmygu o dan unrhyw amgylchiadau yn Llys Aeron ond mae croeso i ysmygwyr fodd bynnag ddefnyddio’r ardd.

 

Ystafell 1

Ystafell fawr gyda gwely brenin mawr,
bath en-suite gyda chawod.

Mae hon yn ystafell fawr, dawel ac esmwyth gyda gwely brenin mawr a byddwch yn sicr o gael noswaith dda o gwsg.

Ystafell 2

Ystafell ddwbl en-suite gyda phâr o welyau, cawod y gellir cerdded i mewn
iddi gyda rheilen gydio.

Ystafell fawr ddwbl/pâr o welyau wedi’i haddurno â dodrefn meddal o liwiau tawel a chawod y gellir cerdded i mewn iddi.

Ystafell 3

Ystafell ddwbl en-suite gyda phâr o welyau, bath a chawod uwchben
gyda rheilen gydio.

Ystafell weddol fawr wedi’i haddurno mewn arddull sy’n foethus. Ystafell en-suite fawr gyda bath a chawod.

What our guests say

“Lovely house in a beautiful setting. Spotlessly clean, excellent food and friendly hosts. I hope to return” 

Jonathan Elgood, London

Datganiad Mynediad Gwesty Llys Aeron

Gellir parcio ceir oddi ar y briffordd yn union y tu allan i’r gwesty. 
Mae 3 gris yn arwain at y drws ffrynt sy’n arwain i’r ystafell wydr ac yna 2 ris ychwanegol cyn mynd i mewn i’r tŷ. 
Mae yna gyntedd eang lle byddwn yn eich croesawu. 
Mae’r ystafell frecwast/lolfa ar yr un lefel â’r cyntedd ac yn edrych allan dros yr ardd sydd â wal o’i chwmpas. 
Mae staer lydan sy’n codi’n raddol i’r llawr 1af , gyda 3 rhes o risiau – 9,3, a 7 gris gyda hanner-landin a chanllaw ar y chwith 
Mae yna landin mawr gyda 3 ystafell yn arwain i ffwrdd.

Enquiry

6 + 8 =