Gwesty Llys Aeron Aberaeron
Mae Dewi a Caryl Morris yn estyn croeso twymgalon i chi i’w gwesty moethus yng Ngheredigion – Llys Aeron – am wely a brecwast yn ogystal â llety hunan-ddarpar.
Mae Gwesty Llys Aeron, wedi ennill statws 5 seren gan ‘Croeso Cymru’ ac mae’n un o’r sefydliadau gwely a brecwast mwyaf poblogaidd yn Aberaeron. Cafodd Llys Aeron ei adeiladu ar ddechrau’r 1800au ac mae’n un o’r tai cerrig hynaf a mwyaf urddasol yn y dref Sioraidd brydferth hon ar arfordir Gorllewin Cymru. Mae’r gwesty’n ddelfrydol ar gyfer treulio gwyliau hir hamddenol neu os am ysbaid byr, boed yn wely a brecwast neu’n llety hunan-ddarpar.
Mae’r adeilad wedi’i adnewyddu gyda’r bwriad o gyfuno moethusrwydd gyda chyfleusterau modern a chyfforddus. Mae yna ddigon o le i ymlacio naill ai yn yr ystafell wydr neu yn yr ardd gysgodol sydd â wal o’i chwmpas. Mae gennym ddewis eang o frecwastau at ddant pawb yn amrywio o frecwast wedi’i goginio ar Aga i smwddi llawn egni ac rydym yn defnyddio cynnyrch lleol lle bynnag y bo modd. Mae yna ddigon o le i barcio ceir oddi ar y briffordd yn ogystal â garej i gadw beiciau ac offer pysgota ac ati dan glo.
Mae yna nifer helaeth o fwytai o safon ar gael yn lleol. Cewch gyfle i fwynhau nifer o wahanol fwydydd yn amrywio o bysgodyn a sglodion yn yr awyr agored i ‘haute cuisine’.
What our guests say
“Most glorious accommodation. Perfect luxury get away. Many thanks. See you again.”
Bill
Enquiry
CONTACT US
Llys Aeron Guest House
Lampeter Road
Aberaeron
Ceredigion
SA46 0ED
01545570276