Hunan-ddarpar
Mae Llys Bach yn llety hunan-ddarpar mawr modern sydd wedi cael ei adnewyddu yn hydref 2007 ac yn rhan o’r gwesty ei hun. Mae wedi’i leoli ar y llawr gwaelod isaf ac yn arwain allan at ardal patio o fewn yr ardd sydd â wal o’i chwmpas.
Llety hunan-ddarpar sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn.
Yn cysgu 4 o bobl.
Dim ysmygu o fewn yr adeilad.
Parcio preifat.
Cyfleusterau
1 ystafell wely ddwbl
1 ystafell gyda phâr o welyau
Lolfa gyda soffas lledr brown. Teledu mawr gyda ‘Freeview’. Bwrdd bwyd a 6 cadair.
Cegin gyda phopty a hob trydan, peiriant golchi llestri, peiriant golchi dillad, rhewgell ac oergell.
Darperir llestri, llestri gwydr ac offer coginio.
Gwres canolog olew
Darperir dillad gwely
Datganiad Mynediad Llys Bach
Gellir parcio ceir oddi ar y briffordd yn union y tu allan i’r gwesty. Mae yna 3 gris bas yn arwain i lawr i’r ardd ac yna llwybr yn arwain at 3 gris arall cyn cyrraedd y patio. Mae yna goridor llydan yn arwain i mewn i’r cyntedd. Mae 2 ystafell wely yn arwain o’r cyntedd, 1 ystafell ymolchi, lolfa a chegin cynllun agored. Mae yna gawod y gellir cerdded i mewn iddi yn yr ystafell ymolchi gyda theils gwrth-lithr a rheilen gydio. Nid oes grisiau o fewn y fflat.
Cyfraddau llogi wythnosol £500-£750
Pris fesul noson o £130 (lleiafswm o 2 noson – ffoniwch am gyfraddau arbennig yn ystod y gaeaf)

