Ystafelloedd

Mae ystafelloedd ymolchi en suite yn y tair ystafell wely ac mae pob un wedi’i chynllunio’n wahanol ac yn cynnwys nifer o eitemau bach ychwanegol a fydd yn eich galluogi i fwynhau eich cyfnod gyda ni.
> Ystafell 1 | > Ystafell 2 | > Ystafell 3 |
|---|
Ym mhob ystafell:
Dillad gwely moethus o gotwm Eifftaidd
Teledu sgrin fflat
Chwaraewr Radio/CD
Cysylltiad Wi-Fi yn rhad ac am ddim
Sychwr gwallt
Cyfleusterau gwneud paned yn cynnwys te llysieuol a the ffrwythau
Blodau ffres
Ystafelloedd a chyfraddau y noson
Ystafell wely ddwbl/gyda phâr o welyau ar gyfer dau berson –pris o £85 i fyny
Un person yn unig– pris o £50 i fyny
Amser Cyrraedd
Amser cyrraedd o 4.30 p.m. - 7.00 p.m. (rhaid trefnu o flaen llaw os am gyrraedd ar unrhyw adeg arall) Amser gadael cyn 10.30 a.m.
Ysmygu
Ni chaniateir ysmygu o dan unrhyw amgylchiadau yn Llys Aeron ond mae croeso i ysmygwyr fodd bynnag ddefnyddio’r ardd.
Datganiad Mynediad Gwesty Llys Aeron
Gellir parcio ceir oddi ar y briffordd yn union y tu allan i’r gwesty. Mae 3 gris yn arwain at y drws ffrynt sy’n arwain i’r ystafell wydr ac yna 2 ris ychwanegol cyn mynd i mewn i’r tŷ. Mae yna gyntedd eang lle byddwn yn eich croesawu. Mae’r ystafell frecwast/lolfa ar yr un lefel â’r cyntedd ac yn edrych allan dros yr ardd sydd â wal o’i chwmpas. Mae staer lydan sy’n codi’n raddol i’r llawr 1af , gyda 3 rhes o risiau – 9,3, a 7 gris gyda hanner-landin a chanllaw ar y chwith Mae yna landin mawr gyda 3 ystafell yn arwain i ffwrdd.
Ystafelloedd gwely
Ystafell 1 - ystafell fawr gyda gwely brenin mawr, bath en-suite gyda chawod llaw.
Ystafell 2 - ystafell ddwbl en-suite gyda phâr o welyau, cawod y gellir cerdded i mewn iddi gyda rheilen gydio.
Ystafell 3 - ystafell ddwbl en-suite gyda phâr o welyau, bath a chawod uwchben gyda rheilen gydio.
Mae croeso i’r gwesteion ddefnyddio’r ardd. Gellir cyrraedd canol y dref ar droed mewn ychydig funudau.
<<: Aberaeron

